top of page
Search
  • Writer's pictureRhydywaun

Goruchwylwyr Arholiadau / Exam Invigilators

Rydym yn edrych i recriwtio Goruchwylwyr Arholiadau hyblyg, dibynadwy a chydwybodol i gynorthwyo’r Swyddog Arholiadau gyda rhediad esmwyth arholiadau mewnol ac allanol.

Bydd y swydd yn cynnwys paratoi ystafelloedd arholiadau, casglu sgriptiau a darparu cefnogaeth i ddisgyblion sydd â threfniadau mynediad (angen cymorth gyda darllen ag ysgrifennu).

 

Rydym yn chwilio am unigolion trefnus, sydd â sgiliau cyfathrebu a gweinyddol da sydd yn gallu:

·      gweithio fel aelod o dîm ac yn unigol

·      cadw at reolau a rheoliadau

·      meddwl yn glir a gwneud penderfyniadau cywir os bydd argyfwng yn codi yn yr ystafell arholiadau.

 

Gan ein bod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, fydd angen i ymgeiswyr gallu cyfathrebu yn y Gymraeg i lefel uchel.

Bydd yr oriau yn amrywiol yn dibynnu ar nifer yr arholiadau a gynhelir bob wythnos.

Darperir hyfforddiant llawn i bob ymgeisydd llwyddiannus.

Disgwylir i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflawni cais datgeliad troseddol DBS cyn cychwyn y swydd.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Leah Thomas ar 01685 813500.


The above is an advertisment to recruit Exam Invigilators for this summer.



19 views
bottom of page