top of page
Search
  • Writer's pictureRhydywaun

CEFNOGWCH CERYS! SUPPORT CERYS!

Helo, fy enw i yw Cerys ac rwy'n mlwyddyn 10.

Eleni, byddaf yn nofio dros y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon yn Perth, Awstralia. Mae cystadleuaeth, Gemau Trawsblaniad y Byd, yn cael ei drefnu gan Ffederasiwn Gemau Trawsblannu'r Byd sef grŵp o bobl oedd eisiau dod ȃ’r holl bobl sydd wedi cael trawsblaniad at ei gilydd i gystadlu mewn llwyth o gystadlaethau.

Mae Gemau Trawsblaniad Prydain yn ddigwyddiad mawr blynyddol, ac, os ydych yn gwneud yn dda, gallwch chi ennill eich lle yng Ngemau Trawsblaniad y Byd. Dyna ble fyddaf i’n nofio. Gall y gystadleuaeth hon gael ei chymharu gyda’r gemau Olympaidd, yn llawn chwaraeon gwahanol. (ond dim chwaraeon sy’n cynnwys cyswllt).

Rydw i’n gallu gwneud y gystadleuaeth hon oherwydd pan oeddwn i yn bedair mlwydd oed cefais ddiagnosis o anemia aplastig ac roedd angen i mi gael trawsblaniad mêr yr asgwrn. Yn ffodus, roedd fy chwaer, Megan o flwyddyn 8, yn cyfateb fêr fy asgwrn a rhoddodd hi rai i fi ac achub fy mywyd.

Nawr, rydw i’n gweithio’n galed i drio ennill medalau dros Gymru. Ond, rydw i angen help i fynd yna! Rwy'n codi arian i helpu gyda’r gost ac rwyf yn ddiolchgar am bob cyfraniad, does dim ots pa mor fach!

Diolch yn fawr!


My name is Cerys O’Connell and I'm in Year 10.

When I was 4 years old, I was diagnosed with a life-threatening medical condition called Severe Aplastic Anaemia. The only treatment was to have a Bone Marrow Transplant. Luckily, my sister Megan was a blood match and following intensive chemotherapy, I received my transplant on 21st June 2013.

I love swimming and am a member of Nexus Valley Swimming Club. In July 2022, I competed for the Wales Transplant Team in the British Transplant Games in Leeds, where I won 3 Golds and 1 Silver medal in Swimming. This was following 2 Golds and a Bronze in the British Transplant Games in Newport in 2019. I’m absolutely ecstatic to have been selected to compete for Great Britain and Northern Ireland in the World Transplant Games, Perth, Australia in 2023.

I am raising funds to cover my expenses associated with attending the Games in Perth, Australia. As I am only 14, my parents will also be attending so any extra funds will help to cover their costs. Any surplus funds will go towards the Transplant Sport UK Management Team (including physios and coaches) who give up their time to support the team.

Please help me reach my goal. Any donations, no matter how small will be greatly appreciated. I am training really hard and hope to come back from Australia with some medals!

Diolch yn fawr!



563 views

Recent Posts

See All
bottom of page