Rydym yn falch i weld bod disgyblion Rhydywaun wedi perfformio’n dda yn y set gyntaf o arholiadau TGAU newydd. Mae disgyblion wedi cyrraedd eu potensial ac mae’r canlyniadau’n galonogol iawn. Rydym yn hynod falch o gyraeddiadau ein holl fyfyrwyr ond hoffem nodi’r canlyniadau unigol canlynol: Owain Birrell 9A*, 3A Emily Ellis 3A*, 5A, 3B, 1C Brogan Jones 2A*, 6A, 4B Lowri Jade Jones 2A*, 8A, 1B, 1C Morgan Mellin 7A*, 4A, 1B Rhiannon Parry 1A*, 7A, 4B Eve Price 9A*, 3A Elis Roome 2A*, 6A, 3B, 1C Darya Williams 2A*, 7A, 4B Edrychwn ymlaen at groesawu dros dau draean o’n myfyrwyr yn ôl i astudio cyrsiau yn y chweched dosbarth. Diolch yn fawr i staff a’r myfyrwyr am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf. |
Newyddion >