Gan
fod rhagolygon y tywydd yn darogan y bydd y tymheredd fory a dydd
Gwener yn cyrraedd 25c+, rydym am ganiatau i ddisgyblion wisgo siorts
i'r ysgol os ydynt yn dymuno. Rhaid iddynt wisgo siorts ddu call neu siorts addysg gorfforol. Ni chaniateir siorts denim. Rhaid hefyd iddynt wisgo esgidiau du fel yr arfer a'u crys polo coch swyddogol ysgol. Byddwn
yn trafod gyda'r Llywodraethwyr ar gyfer y dyfodol ac awgrymu cael
siorts ysgol gyda bathodyn ar gyfer tywydd eithriadol fel wythnos hon. Diolch
i ddisgyblion Bl.8 a Bl.10 sydd wedi awgrymu hyn yn gall heddiw a
chynnal trafodaethau aeddfed iawn drwy Cyngor yr Ysgol a gyda Miss
Williams. |
Newyddion >