20-3-20
Annwyl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion.
Rydym yn gobeithio eich bod yn iawn ac yn cymryd gofal o’ch gilydd fel teuluoedd yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Yn dilyn yr wybodaeth sy’n dod gan y Llywodraeth, mae’r cyngor diweddaraf yn glir: “Os gall plant aros yn ddiogel gartref, dylent, er mwyn cyfyngu ar y siawns y bydd y firws yn lledaenu.”
Sylweddolaf fod yna ddryswch ynghylch cau ysgolion ac hoffwn rannu diweddariad rydym wedi’i dderbyn gan yr Awdurdod Lleol yn ystod y dydd heddiw.
Er na fydd addysg statudol yn cael ei chynnig, o ddydd Llun, bydd yr ysgol ar agor ar gyfer disgyblion 11-14 oed sydd â rhieni / gwarcheidwaid yn gweithio mewn swyddi allweddol. Rydym hefyd wedi gwneud trefniadau ar gyfer grwpiau penodol eraill o ddisgyblion bregus ein hysgol. Bydd trafnidiaeth ysgol yn parhau yr wythnos nesaf hefyd a bwyd ar gael i ddisgyblion fel arfer.
Gweithwyr Allweddol – rhain yw pobl yn y sectorau:- • Iechyd a gofal cymdeithasol; • Addysg a gofal plant; • Gwasanaethau cyhoeddus allweddol; • Llywodraeth leol a chenedlaethol; • Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill; • Diogelwch y cyhoedd a diogelwch cenedlaethol; • Trafnidiaeth; • Gwasanaethau cyfleustodau, cyfathrebu ac ariannol.
OS ydych yn Gweithiwr Allweddol, mae angen i chi lenwi yr holiadur isod, ar gyfer RCT, os ydych am fynediad i ofal plant:
https://forms.rctcbc.gov.uk/en/Web/coronaviruschildcare/startnew
Mae yna hefyd ffurflen ar wefan yr ysgol yn benodol ar gyfer Rhydywaun, i'n helpu ni i wneud trefniadau ar gyfer dydd Llun.
Plant Prydau Ysgol am Ddim Bydd darpariaeth fwyd i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ar gael o’r ysgol gynradd agosaf i’r cartref, yn ddyddiol rhwng 11.00yb a 12.00yp.
Byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda’n rhieni, gwarcheidwaid a disgyblion. Cofiwch fod y dudalen “Disgyblion” ar gael i bawb ar wefan yr ysgol.
Dymuniadau gorau. |
Newyddion >