Newyddion‎ > ‎Clecs Y Cymoedd‎ > ‎

CERBYDAU AR SAFLE'R YSGOL AR DDIWEDD Y DIWRNOD YSGOL

posted 11 Mar 2019, 03:50 by Newyddion Rhydywaun

Mae safle’r ysgol yn brysur iawn ar ddiwedd y dydd. Mae nifer o fysiau’n cyrraedd a gadael ac mae nifer o ddisgyblion yn croesi’r heolydd a theithio i fyny at fysiau/ceir ayb.

Mae nifer o rieni’n cyrraedd safle’r ysgol tra bod disgyblion yn symud at y bysiau ac maent wedyn yn ceisio gadael y safle cyn i’r bysiau ddechrau ymadael. Mae hyn yn achosi anrhefn a phryder o ran diogelwch. Mae hefyd yn golygu bod tagfeydd yn digwydd wrth i’r bysiau ddod i mewn i’r safle ac wrth ymadael.

Ysgrifennaf atoch unwaith eto er mwyn eich hysbysu o’r drefn. Nid ydym am i unrhyw gerbyd symud ar y safle nes bod disgyblion yn ddiogel ar fysiau’r ysgol. Gofynnaf felly i rieni sy’n casglu eu plant i beidio dod ar safle‘r ysgol rhwng 2:50 a 3:10pm. 

Mae croeso gennych gyrraedd a gadael tu hwnt i’r ffenest amser hwn.

Nid ydym eisiau gorfod rhwystro rhieni rhag dod ar y safle na chwaith rhwystro rhag ymadael yn ystod yr amser uchod ond rhaid blaenoriaethu diogelwch ein disgyblion. Gofynnaf felly i chi ddilyn y rheol hon.

Diolch am eich cydweithrediad ar y mater hwn.

Comments