Cartref‎ > ‎Colofn y Prifathro‎ > ‎

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr...

posted 3 Mar 2018, 05:06 by Mark Jones
Gyda'r eira mawr diweddar, rydym yn awyddus i glirio'r llwybrau a mynedfa'r ysgol er mwyn ceisio agor dydd Llun (5/3/18).
Byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth!

Rydym yn ceisio cael grwp o wirfoddolwyr i weithio rhwng 10:30 a 12:00 yfory (dydd Sul) ar safle 'r ysgol.

Os ydych ar gael ac yn gallu cyrraedd yr ysgol yn ddiogel, dewch draw i helpu!

Diolch yn fawr am eich cymorth.
Comments