![]() O ran staffio bydd 2 newid yn Ionawr 2014 yn dilyn ymddiswyddiad Miss Jessica Scully o’r adran Saesneg a phenodiad Miss Aranwen Griffiths o’r adran Seicoleg i swydd gyda’r Gwasanaeth Addysgol Seicolegol yn Sir Fôn. Yn eu lle y bydd Miss Catrin Jones (Seicoleg) a Miss Lyndsay Horan (Saesneg) yn cychwyn yn Ionawr 2014. Yn ddiweddar fe fyddwch wedi clywed cyhoeddi grwpiau bandio ysgolion newydd. Eleni rydym ym Mand 3 ar ôl bod ym Mand 5 y llynedd. Mae hyn yn dilyn gwelliant syfrdanol yng nghanlyniadau’r ysgol. Rhagwelwn welliant pellach eleni a thrwy hynny gobeithiwn godi i Band 2 erbyn Rhagfyr 2014. Unwaith eto hoffwn ddiolch i’r disgyblion ac athrawon am eu hymroddiad i’r ysgol. Bydd yr ysgol yn cau brynhawn Gwener Rhagfyr 20fed 2013 am 1.00 ac yn ail agor i bawb ar ddydd Llun Ionawr 6ed 2014. Bydd gwaith ar dai bach disgyblion ym mloc 3 yr ysgol wedi cael ei gwblhau erbyn hyn ynghyd a chamerau diogelwch llawer gwell yn y safle. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb ac edrychaf ymlaen i’ch croesawu yn nhymor y Gwanwyn. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >