![]() Morgan Powell oedd enillydd Cadair yr Eisteddfod eleni. Cafodd ganmoliaeth uchel am safon ei waith gan y beirniad Miss Sioned Jones. Mewn seremoni arbennig cyflwynwyd cadair fechan iddo, ac fe gafodd eistedd mewn cadair arbennig iawn, rhodd i'r ysgol gan Mr Leslie Davies, un o lywodraethwyr yr ysgol. Morgan hefyd oedd enillydd y Tlws Saesneg - am ddiwrnod iddo fe! ![]() ![]() Daeth uchafbwynt y cystadlu ddiwedd y prynhawn gyda chystadleuaeth ‘Côr y Llys’. Cafwyd tri pherfformiad bywiog a swynol o’r gân hyfryd ‘Mae Ddoe Wedi Mynd’, a’r beirniaid o’r farn unwaith eto mai côr Y Bannau oedd yn haeddu’r wobr gyntaf. Dyna'r ail flwyddyn yn olynol i'r Bannau! Yn dilyn cystadleuaeth y côr cafwyd perfformiad arbennig o'r darn gan Gôr y Staff - ac un cyfle i bawb yn y Coliseum ganu a chodi'r to! Roedd canlyniad terfynol yr Eisteddfod yn agos iawn eto eleni! Llys Maerdy oedd y llys buddugol, yn ennill tlws yr Eisteddfod. Daeth Rhigos yn ail a'r Bannau yn drydydd. Diolch i’r penaethiaid llys Mr Glyn Wise, Miss Carys Comley a Mr John Manuel, ac i ddisgyblion y Chweched am eu gwaith caled. Hefyd diolch i bawb oedd yn hyfforddi a chystadlu. Eisteddfod arall i’w chofio! ![]() |
Cartref > Colofn y Pennaeth >