Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi llwyddiant ysgubol disgyblion blwyddyn 11 yn eu harholiadau allanol eleni. Llwyddodd 98% o ddisgyblion i sicrhau o leiaf 5 cymhwyster Lefel 2 tra llwyddodd 60% o’r flwyddyn i sicrhau Lefel 2+ (5 cymhwyster Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg). Mae hyn yn welliant mawr ar y llynedd lle sicrhawyd 80% a 56% ac yn ddatblygiad syfrdanol ers 2012 pan oedd canlyniadau yr ysgol yn 61% a 42%. Dyma ganlyniadau gorau yn hanes yr ysgol ac y mae’n glod mawr i’r disgyblion, athrawon a’r rhieni. Mae sawl disgybl wedi serenu ac adlewyrchir hyn isod: Megan Price - 10A*, 1A Megan Williams - 9A*, 1A, 1B Jessica Jones - 7A*, 4A Katie Rivers - 7A*, 4A Ben Breakspear - 6A*, 3A, 2B Menna Reed - 4A*, 4A, 3B Llongyfarchiadau mawr i bawb ac edrychwn ymlaen i groesawu’r disgyblion yn ôl i Flwyddyn 12 ym mis Medi. Hywel Price, Awst 21ain, 2014. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >