Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod disgyblion Blwyddyn 11 (2015) wedi sicrhau y canlyniadau gorau yn hanes yr ysgol. Llongyfarchiadau gwresog i staff a disgyblion ar ganlyniadau Awst 2015 – llwyddodd 99% o ddisgyblion i sicrhau o leiaf 5 cymhwyster Lefel 2 (95% yn 2014), gyda’r Trothwy Lefel 2+ (5 cymhwyster yn cynnwys Mathemateg a Iaith) yn cynyddu o 59.8% yn 2014 i 64.4% yn 2015 – cynnydd o 4.6 pwynt canran. Gwelwyd gwelliant pellach ym mherfformiad yr adrannau craidd gyda’r Adran Fathemateg yn sicrhau 68%, yr adrannau Cymraeg a Saesneg yn cyrraedd 73% a Gwyddoniaeth yn sicrhau 100%. Hoffwn dynnu sylw penodol at lwyddiannau y disgyblion canlynol – Seren Jones-Reddy (7A* a 4A), Charlotte Morris (5A*, 4A a 2B), Jessica Humphreys (4A*, 6A ac 1B), Iori Kent (4A*, 4A a 3B), Shauna Evans (4A*, 4A a 2B), Jamie Evans (3A*, 5A a 3B), Molly Sedgemore (2A*, 6A a 3B) ac Evan Goggin-Jones (1A*, 6A, 3B ac 1C) ac edrychwn ymlaen at groesawu’r disgyblion yn ôl ar Fedi 2ail 2015 i ddechrau ar eu cyrsiau UG. Hywel Price 20 Awst 2015 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >