Yn dilyn llawer o achosion o'r frech goch yn Ewrop ac achosion llai yn lleol yng Nghasnewydd a Thorfaen, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am godi ymwybyddiaeth ar frys o bwysigrwydd brechu pobl ifanc rhag cael y frech goch. Mae'n bwysig bod staff, myfyrwyr a phlant sy'n dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf wedi cael dau ddos o'r brechiad MMR. Am fwy o wybodaeth agorwch y linc i'r poster ar Y Frech Goch gan GIG Cymru. |
Cyhoeddiadau >