Colofn y Prifathro

  • Tymor yr Haf
    Croeso nôl i’r ysgol i dymor olaf y flwyddyn academaidd hon.  Yn dilyn llwyddiant ysgubol y sioe gerdd ‘Sweeney Todd’ yn ddiweddar, taith sgio i Saalbach, Awstria a thaith Drama i Fenis dros y gwyliau Pasg, mae’r ysgol yn dychwelyd i’r drefn arferol.  Er bod tymor yr haf yn cael ei gysylltu gydag arholiadau allanol i ddisgyblion blynyddoedd 10-13 mi fydd sawl digwyddiad ysgol gyfan ar y gweill.

    O ran staffio, hoffwn groesawu Mrs Lowri Thomas yn ôl ar ol cyfnod o famolaeth a dymunaf gyhoeddi ymddiswyddiad Mrs Teresa Hunt fel athrawes Mathemateg o’r ysgol.  Cofiwch fod yr ysgol ar gau ddydd Llun Mai 6ed 2013 oherwydd Gŵyl y Banc ac ar ddydd Gwener Mai 10fed 2013 oherwydd HMS.  Cynhelir y Mabolgampau eleni yn Stadiwm Llecwydd, Caerdydd ddydd Gwener Mai 24ain 2013 ac Eisteddfod yr ysgol ddydd Gwener Gorffennaf 12fed 2013 yn y Coliseum, Aberdâr.  Bydd manylion pellach i ddilyn.

    Gyda’r cyfnod arholiadau allanol yn brysur agosau mae’r arfer o ganiatau disgyblion i adael yr ysgol am gyfnod astudio wedi dod i ben ac felly disgwylir i ddisgyblion fynychu’r ysgol rhwng yr arholiadau. Byddwn yn addasu amserlen y disgyblion ac yn darparu cyfnodau adolygu a fydd yn cydfynd gyda’r amserlen arholiadau.

    Diolch yn fawr unwaith eto am eich cefnogaeth.

    Hywel Price
    Prifathro

    Posted 11 Apr 2013 14:15 by Elen George
Showing posts 1 - 1 of 10. View more »

Newyddion

  • Llwyddiant Crufts Enillodd Ciaran Howell Blwyddyn 7 y drydedd wobr yn Crufts am arddangos ei gi yn ddiweddar. Roedd Ciaran a'r ci hefyd i'w gweld ar raglen deledu yn sôn ...
    Posted 23 Apr 2013 01:50 by Elen George
  • Pencampwraig Jiwdo Mae Gwen Northall nawr yn Bencampwraig Jiwdo Prydain dan 16 ar ôl cystadlu yn Sheffield yn ddiweddar. Daeth Steffi Allen yn 7fed a bu Harri Evans yn ymladd hefyd ...
    Posted 23 Apr 2013 01:38 by Elen George
  • Llwyddiant Dawnsio i Loyd Llongyfarchiadau i Loyd Griffiths Blwyddyn 11 sydd wedi dod yn fuddugol ym Mhencampwriaethau Dawnsio Lladin Prydain yn Blackpool yn ddiweddar yn y gystadleuaeth ar gyfer tîm pedwar cwpl. Mae Loyd ...
    Posted 23 Apr 2013 01:28 by Elen George
  • Eisteddfod Sir yr Urdd Cynhaliwyd Eisteddfod Sir yr Urdd yn yr ysgol yr wythnos yma. Daeth y canlynol yn fuddugol yn eu cystadlaethau, a byddant nawr yn cynrychioli'r Ysgol a'r Sir yn ...
    Posted 23 Apr 2013 01:21 by Elen George
  • Llwyddiant dawnsio! Llongyfarchiadau i Seren Williams Blwyddyn 7 sydd wedi cystadlu ac ennill gwobr ym Mhencampwriaethau Dawnsio Stryd yr UDO yn ddiweddar. Mae Seren yn dawnsio gyda'r tîm Streetwise.
    Posted 22 Mar 2013 07:23 by Elen George
  • Llongyfarchiadau Kizzy! Llongyfarchiadau i Kizzy Crawford o Flwyddyn 12 ar gyrraedd rownd gyn-derfynol Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2013. Bydd Kizzy'n ymddangos ar raglen C2 ar ...
    Posted 8 Mar 2013 08:20 by Elen George
  • Cogyddion o fri! Llongyfarchiadau i Thomas Blandford a Morgan Lewis o 7 Cynon sydd wedi cael ryseitiau  wedi eu cyhoeddi mewn llyfr coginio newydd o'r enw 'Food Glorious Food'. Bydd y ddau ...
    Posted 19 Feb 2013 14:15 by Elen George
  • Diwrnod Ymweld Athrawon Blwyddyn 6 Croesawyd athrawon Blwyddyn 6 ysgolion Clwstwr Rhydywaun i'r ysgol yn ddiweddar i gwrdd â disgyblion Blwyddyn 7 a gweld sut maen nhw'n mwynhau yn Rhydywaun. Roedd y disgyblion ...
    Posted 6 Feb 2013 16:47 by Elen George
  • Carfan Cymru Polo Dŵr Llongyfarchiadau i Darrah Jones-Reddy ar gael ei dewis i fod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Polo Dŵr.
    Posted 6 Feb 2013 16:44 by Elen George
  • Cyngerdd Carolau Clwstwr Cynradd Cynhaliwyd Cyngerdd Carolau Clwstwr Rhydywaun yn yr ysgol cyn y Nadolig. Cafwyd bore hwylus iawn gyda pherfformiadau amrywiol gan ddisgyblion Blwyddyn 6 pob ysgol gynradd yn ein clwstwr - Santes Tudful ...
    Posted 8 Jan 2013 02:09 by Elen George
Showing posts 1 - 10 of 32. View more »





Sweeney Todd Chwefror 2013

Trydar Diweddar

Digwyddiadau Nesaf


Allwedd: Gwyliau a Dyddiad HMS  Digwyddiadau

Cyhoeddiadau Diweddar

  • Cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd Dylai disgyblion sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni sicrhau eu bod yn derbyn copi o'r llythyr trefniadau terfynol ac yn dychwelyd y ffurflen feddygol i Miss Abigail ...
    Posted 17 May 2013 07:48 by Elen George
  • Y Frech Goch
    Posted 22 Mar 2013 08:42 by Elen George
Showing posts 1 - 2 of 14. View more »

Dogfennau Mwyaf Diweddar

  • Llythyr Cyntaf Taith Gweithgareddau Dŵr 2014.pdf   924k - 17 May 2013 07:42 by Elen George (v2)
  • Ffurflen Feddygol Urdd 31.05.13.pdf   31k - 17 May 2013 07:24 by Elen George (v2)
  • Llythyr Trefniadau Terfynol Eisteddfod yr Urdd 2013.pdf   513k - 17 May 2013 07:24 by Elen George (v2)
  • Llythyr Dyddiadau Pwysig - Mai 2013.pdf   589k - 9 May 2013 13:58 by Elen George (v2)
  • Trefniadau Cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd 23.4.13.pdf   566k - 23 Apr 2013 02:12 by Elen George (v2)
Showing 5 files from page Dogfennau Defnyddiol.

Cymorth TG

  • Darganfyddwch mwy am y dechnoleg a ddefnyddir gan ddisgyblion a staff Rhydywaun yma
  • Chwilio am e-bost  Mae'r fideo hwn gan Google yn esbonio sut i chwilio am e-bost yn gMail.
    Posted 14 May 2013 13:50 by Roland George
  • Prynu offer Apple Gellir prynu offer Apple yn rhatach yn uniongyrchol oddi wrth Apple Education ar eu gwefan.
    Posted 14 May 2013 13:33 by Roland George
  • Cyflwyniad i Google Drive
    Posted 14 May 2013 13:20 by Roland George
Showing posts 1 - 3 of 3. View more »